Croeso i WPI
Sefydliad Seicotherapi Cymru

Ar gyfer unrhyw un sydd eisiau hyfforddi fel Seicotherapydd Cofrestredig gyda UKCP neu sy’n awyddus i weithio gydag un ohonynt.

Sefydliad Hyfforddi Seicotherapi Gestalt ac Integreiddiol sydd wedi’i achredu gan UKCP

Mae WPI yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ac maent yn darparu hyfforddiant seicotherapi hygyrch a modiwlar. Mae ganddynt aelodaeth sefydliadol o Gyngor Seicotherapi y Deyrnas Unedig (UKCP). Mae WPI yn ceisio ei gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar seicotherapi o ansawdd uchel ym mhob rhan o Gymru a’r tu hwnt, gyda’r amcanion canlynol:

  1. Hyfforddi seicotherapyddion a chwnselwyr i’r safon broffesiynol uchaf yn y DU.
  2. Cynnal ymyriadau therapiwtig o ansawdd uchel ac effeithiol i bobl na fyddai fel arall yn gallu cael mynediad i seicotherapi, drwy law Gwasanaeth Therapi Fforddiadwy WPI, sy’n cael ei ddarparu gan uwch hyfforddeion.
  3. Darparu arweinyddiaeth greadigol ym maes seicotherapi a chwnsela yng Nghymru gyda’n rhwydwaith o raddedigion a chyd-weithwyr proffesiynol.
  4. Hyrwyddo’r safonau ymarfer gorau ym maes iechyd meddwl a llesiant pobl gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau, nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru.

Rydym ni wedi ymroi i fod yn gymuned gynhwysol sy’n barod i herio anghyfiawnderau a hyrwyddo arferion gwrth-orthrymol. Rydym ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu rhoi’r dull hwn ar waith wrth ddarparu hyfforddiant ac wrth redeg y sefydliad. Mae deialog, tryloywder a llywodraethiant dda yn ganolog i’n model busnes.

Hyfforddiant Seicotherapi

Dyma’r cyrsiau rydym ni’n eu cynnig:

  • Diploma Ôl-radd Uwch mewn Seicotherapi Gestalt
  • Diploma Ôl-radd Uwch mewn Seicotherapi Integreiddiol

Mae pob cwrs yn cael ei ddysgu dros gyfnod o bedair blynedd (rhan amser) ac yn dilyn hynny bydd angen ymgymryd ag i fyny at dwy flynedd o astudio annibynnol. Ar ôl cwblhau’r gofynion byddwch yn gymwys i fod yn aelod cofrestredig gyda UKCP.

Meini Prawf Mynediad:

  1. Gradd neu gymhwyster lefel 6 neu gyfatebol. Os nad oes gan yr ymgeisydd unrhyw gymhwyster addysg uwch byddwn ni’n ei wahodd i ddangos pam ei fod yn addas ar gyfer yr hyfforddiant drwygydnabod dysgu blaenorol, a sôn am unrhyw brofiadau bywyd neu gyrsiau galwedigaethol perthnasol.
  2. Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi cael o leiaf 4 mlynedd o brofiad gwaith perthnasol gydag oedolion.

Mae’r cyrsiau yn cael eu dysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Saesneg.

Dewis Therapydd

Os ydych chi’n chwilio am therapydd ac yn awyddus i gysylltu ag un oddi ar ein cyfeiriadur, cliciwch ar enw’r Therapydd / Goruchwylydd yr hoffech chi gysylltu â nhw er mwyn gweld eu tudalen wybodaeth. Yna, gallwch chi anfon e-bost cyfrinachol atyn nhw…

Y Newyddion Diweddaraf a Chalendr WPI

Croeso i dudalen Newyddion a Digwyddiadau Sefydliad Seicotherapi Cymru. Rydym ni’n defnyddio’r dudalen hon i rannu’r newyddion diweddaraf am hyfforddiant, digwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus a datblygiadau pwysig eraill ym maes seicotherapi.

WPI Values Gwerthoedd ac Ethos WPI Ethos

  • Rydym ni wedi ymroi i fod yn gymuned gynhwysol sy’n barod i herio anghyfiawnderau a hyrwyddo arferion gwrth-orthrymol. Rydym ni’n gobeithio y byddwn ni’n gallu rhoi’r dull hwn ar waith wrth ddarparu hyfforddiant ac wrth redeg y sefydliad. Mae deialog, tryloywder a llywodraethiant dda yn ganolog i’n model busnes.
  • Rydym ni’n gwerthfawrogi ein cleientiaid – rydym ni’n eu trin â pharch, ymwybyddiaeth foesegol a ffiniau priodol.
  • Rydym ni’n gwerthfawrogi ein cydweithwyr – rydym ni’n gweithio gyda nhw i ddatblygu a chynnal safonau a chymwyseddau proffesiynol arbennig.
  • Rydym ni’n falch o’n hamrywiaeth – boed hynny yng nghyd-destun cefndiroedd diwylliannol, agweddau damcaniaethol, neu brofiadau bywyd.
  • Rydym ni’n gweld gwerth mewn cydlyniaeth – yn y gwerthoedd rydym ni’n eu rhannu ac wrth geisio cynnal y safonau uchaf posibl yn ein gwaith.
  • Rydym ni’n rhoi pwyslais ar berthnasoedd er mwyn dod i ddeall materion cymdeithasol ac amgylcheddol yn well.
  • Rydym ni’n cydnabod bod iechyd a llesiant yn dibynnu ar ein gallu i fyw a gweithio gyda’n gilydd ar y blaned rydym ni’n ei rhannu.

Mae’r wefan Gymraeg a Saesneg wrthi’n cael eu datblygu.